Menu
John Harper Owen

John Harper Owen - Biography

John Harper Owen - Biography

About the Artist

Arlunydd o Fôn

 

Landscape and figurative artist based on Anglesey

John Harper Owen was born on the island of Anglesey in north Wales. After completing a foundation course in art in Bangor and graduating in graphic design from Bristol, he moved to London where he spent 18 years working in corporate design. Much of the work was produced for Middle Eastern clients. As this work grew in volume and importance, he moved to the region in 2003, first to Bahrain and then to Dubai. He recently returned to Anglesey after almost 19 years in the Middle East.

 

He still consults for the Dubai-based company but art has become an increasingly important hobby, particularly during summers in Anglesey and his wife's home in Newfoundland, Canada. The eventual aim is to be a full-time artist.

 

John primarily works outdoors and likes to follow the plein air tradition. Unlike studio painting from a photograph, this method generates a strong personal response to a subject matter which translates to a more honest and accurate representation of a scene. The importance of this approach was introduced to him by one of Britain's foremost landscape painters, the late Peter Prendergast RCA, who lectured on the foundation course in Bangor. John has also attended workshops by the world-renowned watercolour artist, Alvaro Casagnet.

 

Most of John's paintings record everyday activities and often include people, capturing seemingly ordinary moments in time.

 

Ganwyd John Harper Owen ar Ynys Môn. Cwblhaodd gwrs sylfaen mewn celf ym Mangor cyn graddio mewn dylunio graffig ym Mryste. Symudodd wedyn i Lundain lle treuliodd 18 mlynedd yn gweithio ym maes dylunio corfforaethol. Cynhyrchwyd llawer o'r gwaith ar gyfer cleientiaid yn y Dwyrain Canol. Wrth i'r gwaith hwn dyfu o ran maint a phwysigrwydd symudodd i'r rhanbarth ym 2003, yn gyntaf i Bahrain ac yna i Dubai. Yn ddiweddar, dychwelodd i Ynys Môn ar ôl bron i 19 mlynedd yn y Dwyrain Canol.

 

Mae'n dal i ymgynghori ar gyfer y cwmni o Dubai, ond mae arlunio wedi dod yn hobi cynyddol bwysig, yn enwedig yn ystod hafau ar yr ynys a chartref ei wraig yn Newfoundland, Canada. Y nod yn y pen draw yw bod yn arlunydd llawn amser.

 

Mae John yn gweithio yn yr awyr agored yn bennaf ac yn hoffi dilyn y traddodiad plein air. Yn wahanol i baentio o ffotograff mewn stiwdio, mae'r dull hwn yn cynhyrchu ymateb personol cryf sy'n trosi i gynrychiolaeth fwy gonest a chywir o olygfa. Cyflwynwyd pwysigrwydd y dull hwn iddo gan un o’i ddarlithwyr  ar y cwrs Sylfaen ym Mangor sef y diweddar Peter Prendergast, RCA, a oedd yn un o arluniwyr tirwedd mwyaf blaenllaw Prydain. Mae John hefyd wedi mynychu gweithdai gan yr artist dyfrlliw byd-enwog, Alvaro Casagnet.

 

Mae'r rhan fwyaf o luniau John yn cofnodi gweithgareddau bob dydd ac yn aml yn cynnwys pobl, gan ddal ciplun o fywyd cyffredin.